Urdd Gobaith Cymru
   Swyddfa’r Urdd
     Ffordd Llanbadarn
       Aberystwyth
         Ceredigion
          SY23 1EY

        
Ffôn 01970 613110
      Ffacs 01970 626120
Ar y We:www.urdd.org

 

 

DIOGELWCH Y PLANT YN FLAENORIAETH YN EISTEDDFOD YR URDD - Cwmni cyfathrebu yn cefnogi’r mudiad

Does dim angen i blant sy’n ymweld ag Eisteddfod Genedlathol yr Urdd eleni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i bryderu eu bod yn mynd ar goll yn ym Mae Caerdydd.

Diolch i’r Urdd a’r cwmni cyfathrebu StrataMatrix bydd plant sy’n ymweld â’r Eisteddfod eleni yn derbyn breichledau am ddim i’w gwisgo, gyda rhif llinell gymorth arnynt i alw am gymorth os byddant yn mynd ar goll.

“Gan bod Eisteddfod yr Urdd yn torri tir newydd rydym yn awyddus i blant o bob rhan o Gymru deimlo’n ddiogel mewn amgylchedd trefol yn yr Eisteddfod eleni”, yn ôl Cyfarwyddwr StrataMatrix Dawn Havard

“Dros y blynyddoedd mae’r Eisteddfod wedi ei chynnal mewn pafiliwn ar dir fferm neu mewn parc ond eleni mae’r plant a’r bobol ifanc yn cael y cyfle unigryw i fanteisio ar y cyfleusterau gorau yn y byd yng Nghanolfan y Mileniwm ac atyniadau’r Bae yng Nghaerdydd ac rydym yn awyddus i aelodau’r Urdd o bob oed i fwynhau’r profiad yn llawn.

“Bu cysylltiad agos rhwng StrataMatrix â’r Urdd dros y blynyddoedd ac rydym hefyd yn ei hystyried yn briodol i ail lawnsio delwedd newydd y Cwmni yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

“Rydym ni yn StrataMatrix yn rhannu dyheadau Urdd Gobaith Cymru ac yn unol â gwerthoedd y Mudiad rydym ni yn seilio ein delwedd newydd ar ein Cymreictod a’n dealltwriaeth eang o Gymru drwy ddefnyddio llythrennu a delweddau clir ac eglur a’r slogan – Y pwyslais ar Gymru … Communications with a Welsh accent

“Sefydlwyd StrataMatrix fel y cwmni cysylltiadau cyhoeddus dwyieithog cyntaf yng Nghymru ym 1979 a ninnau nawr yn dechrau ar gyfnod newydd yn ein hanes ar ôl 25 mlynedd rydym wedi penderfynnu dylunio delwedd newydd a lawnsio gwefan newydd i gyflwyno gwaith y Cwmni”

Bydd y plant yn derbyn y breichledau wrth gyrraedd yr Eisteddfod sy’n cychwyn ar ddydd Llun Mai 30.

Dywedodd Sian Eirian Cyfarwyddwr Eisteddfod a’r Celfyddydau yr Urdd ei bod yn croesawu’r cynllun hwn er mwyn ychwanegu at fwyniant y plant fydd yn ymweld â’r Ŵyl.

“Mae’r Eisteddfod eleni o reidrwydd yn wahanol i eisteddfodau’r gorffennol ond mae’n her arbennig i ni i ddatblygu dulliau gwahanol o drefnu’r Wyl a ddarpariaeth ar y Maes, ac wrth gwrs mae diogelwch y plant bob amser yn flaenoriaeth i ni.

“Gall rhieni ac athrawon fod yn dawel eu meddwl ein bod yn gwneud ein gorau i sicrhau bod ymweliad â’r Eisteddfod yn brofiad diogel a chofiadwy”.

Mae cyfanswm o 40,000 o aelodau’r Urdd yn cymryd rhan yn y cystadlu mewn eisteddfodau cylch a sir a disgwylir tua 120,000 o ymwelwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bae eleni.

Eisteddfod yr Urdd yw’r achlysur Cymraeg cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a bydd dewis yn y dyfodol i’r Urdd fynd yn ol yno i gynnal yr Ŵyl yn y Bae bob pedair blynedd

Bydd ymweliad yr Eisteddfod â’r Bae yn rhoi hwb o £3.4 miliwn i’r economi lleol.

Am fwy o wybodaeth cysyllter â: Manon Wyn, Swyddog Marchnata a Chysylltiadau, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, 01970 613115, manonwyn@urdd.org

View in English
 

Cadeirydd: Rhiannon Lewis    Prif Weithredwr: Efa Gruffudd Jones
Cwmni Urdd Gobaith Cymru (Corfforedig), Rhif Cwmni: 263310.  Cwmni Cyfyngedig.  Cofrestrwyd yng Nghymru.  Elusen Gofrestredig Rhif 524481